OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2589 (Cy. 256) (C. 112)
priffyrdd, cymru
Gorchymyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac eithrio’r rheini a gychwynnwyd pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2589 (Cy. 256) (C. 112)
priffyrdd, cymru
Gorchymyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2014
Gwnaed 24 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer yn adran 14(1) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013([1]).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
2. Mae adrannau 3 i 11 o’r Ddeddf i ddod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2014